Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-05-12 papur 5

Ymchwiliad i'r achos busnes dros un corff amgylcheddol – Tystiolaeth gan Barciau Cenedlaethol Cymru

 

Ymateb i Achos Busnes Llywodraeth Cymru dros yr Un Corff Amgylcheddol

 

 Ionawr 2012


1.      CYD- DESTUN

 

1.1      Ar 21 Rhagfyr 2011 gwahoddodd Dirprwy Glerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd dri Awdurdod y Parc i ddarparu papur tystiolaeth ac i anfon cynrychiolwyr o’r Parciau i gyfranogi mewn panel trafodaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC / WLGA) fel rhan o ymchwiliad byr i archwilio’r Achos Busnes dros Un Corff Amgylcheddol (UCA).

 

1.2      Cawsom ein cynghori nad oedd y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor wedi cael ei gytuno arno eto.  Cafodd y papur hwn ei baratoi ar ran Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri a hynny yn absenoldeb y cylch gorchwyl.

 

1.3      Mae Parciau Cenedlaethol Cymru (PCC) yn cynrychioli cyd gynulliad o Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol (APCau) mewn partneriaeth er mwyn rhannu arferion da, cyflawni arbedion effeithlonrwydd a hyrwyddo rôl y Parciau Cenedlaethol (PC) wrth gyflawni amgylchedd fyw a chynaliadwy.

 

2.      CRYNODEB O’R PAPUR

 

2.1      Mae Parciau Cenedlaethol Cymru (PCC) yn croesawu’r datganiad gan y Gweinidog i sefydlu Un Corff Amgylcheddol (UCA) dros Gymru.

 

2.2      Nid yw Parciau Cenedlaethol Cymru (PCC) yn cwestiynu’r fethodoleg a chasgliadau’r achos busnes strategol.

 

2.3      Mae Parciau Cenedlaethol Cymru (PCC) yn cefnogi’r dymuniad o gael “...a new, integrated approach to managing the natural environment, joining up existing organisational strategies...” ar dudalen 7. Dylai sefydlu Un Corff Amgylcheddol (UCA) ganiatáu i Lywodraeth Cymru (LlC) osod ffocws cliriach ar gyfer y maes cyfrifoldeb hwn sy’n eiddo iddo.

 

2.4      Yn ddelfrydol dylai’r Un Corff Amgylcheddol (UCA) fod wedi cael ei sefydlu mewn ymateb i Fframwaith Amgylcheddol Naturiol (FfAN) wedi ei lawn ddatblygu a’r argraff sy’n bodoli yw bod yr Un Corff Amgylcheddol (UCA)  wedi cael ei ddatblygu cyn bod dealltwriaeth o beth y disgwylir i’r Fframwaith Amgylcheddol Naturiol (FfAN) ei gyflawni yn nhermau allbynnau mesuradwy.

 

2.5      Byddai’r Achos Busnes yn elwa o gael enghreifftiau ymarferol i gefnogi datganiadau fel bod “lack of coherence in environmental planning at both strategic and local level” yn arwain at “detrimental impact (on) the delivery of Welsh Government policy and environmental improvements (as well as) impact on major economic development opportunities” ar dudalen 9.

 

2.6      Mae sut y sefydlir yr Un Corff Amgylcheddol (UCA), ei werthoedd craidd a’r mecanweithiau cyflawni o bwys gwirioneddol i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol (APCau).  Rydym o ddifrif yn gobeithio yr ymgynghorir yn weithredol â’r partneriaid perthnasol ar sut y bydd yr Un Corff Amgylcheddol (UCA) yn cael ei strwythuro yn weithredol.  Oni bai fod hyn yn cael ei wneud yn iawn mae yna berygl fod gwaith di-graidd yr awdurdodau cyfansoddol, sy’n arwyddocaol i waith Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol (APCau) fel mynediad a threftadaeth ddiwylliannol, yn cael eu hisraddio trwy fod yn rhan o gorff llawer mwy.

 

2.7      Mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol (APCau) yn ystyried bod ganddynt rôl bwysig i’w chwarae i sicrhau bod yr Un Corff Amgylcheddol (UCA)yn gallu cyflawni'r mentrau polisi integredig.  Ar y lefel leol mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol (APCau) yn gallu ac yn hwyluso ymglymiad effeithiol gyda chymunedau lleol, rheolwyr tir lleol a defnyddwyr tir.

 

3.      YMGLYMIAD PARCIAU CENEDLAETHOL CYMRU (PCC) YN YR ACHOS BUSNES A’R FFRAMWAITH AMGYLCHEDDOL NATURIOL (FfAN)

 

3.1      Mae Parciau Cenedlaethol Cymru wedi bod yn chwarae rhan yn uniongyrchol mewn trafodaethau ar y Fframwaith Amgylcheddol Naturiol (FfAN) a’r Un Corff Amgylcheddol (UCA) fel a ganlyn:

 

v  Fel rhai yr ymgynghorir â hwy ar Cymru Fyw: Y Fframwaith Amgylcheddol Naturiol (FfAN).

v  Trwy ymglymiad yn y grŵp cyfeirio ar y Fframwaith Amgylcheddol Naturiol (FfAN) / Un Corff Amgylcheddol (UCA)

v  Trwy gyfrwng trafodaethau rheolaidd â Swyddogion Llywodraeth Cymru a budd ddeiliaid eraill, gan gynnwys Seminar Aelodau Parciau Cenedlaethol Cymru ym mis Hydref a gafodd ei lywyddu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol (APC) Bannau Brycheiniog a oedd yn canolbwyntio ar fioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau o fewn Parciau Cenedlaethol Cymru.

 

Mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol hefyd wedi cael ymglymiad anuniongyrchol yn y trafodaethau ar yr Un Corff Amgylcheddol (UCA) trwy gyfrwng eu haelodaeth gysylltiedig â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

4.      METHODOLEG

 

4.1      Nid yw Parciau Cenedlaethol Cymru (PCC) yn cwestiynu’r fethodoleg, gan gynnwys y meini prawf cymhwysol, y matrics sgorio, graddio opsiynau ac yn y blaen.

 

4.2      Cyn belled ag y mae risgiau dan sylw mae’r Achos Busnes yn cyfeirio at “continuity of parent body” ar dudalen 12 ond nid ydym yn credu yr eir i’r afael â hyn yn ddigonol.  Bydd sefydlu corff newydd yn cael effaith tymor byr ar ei bartneriaid.  Mae sefydlu corff newydd yn ddiau yn golygu mai’r canlyniadau fydd peri aflonyddwch a gostyngiad yn yr ymdrech gynhyrchiol. Fodd bynnag, mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol (APC) yn disgwyl y bydd y cyfnod trawsgyweirio yn cael ei reoli yn effeithiol er mwyn lliniaru a lleihau unrhyw aflonyddwch i’w bartneriaid.

 

4.3      Rydym yn croesawu’r cyfeiriad ar dudalen 20 at bwysigrwydd “the maintenance and development of effective partnerships ... including those relating to planning decisions...””

 

4.4      Mae’r achos busnes hefyd yn ymdrin â materion masnachol ac ariannol (adrannau 4 a 5) megis darpariaethau pensiwn, asedau a rhwymedigaethau, trefniadau trosiannol ac ati sydd y tu allan i’n gallu i gyflwyno sylwadau arnynt

 

 5.     YR ACHOS AM NEWID

 

5.1      Nid yw Parciau Cenedlaethol Cymru yn cwestiynu’r egwyddor o sefydlu Un Corff Amgylcheddol. Dylid croesawu’r ffaith bod hwn yn gyfle i symleiddio ac integreiddio’r cyflenwad gwasanaethau.

 

5.2      Mae’r sail resymegol a’r meini prawf ar gyfer yr adolygiad wedi’u nodi’n glir ac yn gynhwysfawr yn yr achos busnes.

 

5.3      Nid yw Parciau Cenedlaethol Cymru mewn sefyllfa i gwestiynu’r achos economaidd a’r meini prawf rancio a fabwysiadwyd.

 

5.4      Rhaid canmol nodau’r Un Corff Amgylcheddol fel y maent ar hyn o bryd.

 

5.5       Rydym yn cefnogi’r farn y bydd “The change will give Wales first hand representation over the full breadth of the SEBs remit and therefore more influence” ar dudalen 31.

 

5.6       Nid ydym yn cwestiynu’r honiad y bydd yr Un Corff Amgylcheddol yn “enable better delivery of Welsh Ministers’ priorities and Wales’ needs...” ar dudalen 30. Byddai rhai enghreifftiau ymarferol i gefnogi hyn yn ddefnyddiol.

 

5.7      Mae’r Achos Busnes yn datgan y bydd “Combining bodies reduces duplication or triplication of activity...” ar dudalen 30. Byddai’n ddefnyddiol petai yna ddiffiniad cliriach yn yr achos busnes o’r achosion o ddyblygu ar y rheng flaen o ran gweithgarwch rheoliadol ac anrheoliadol y tri sefydliad cyfansoddol. Mae’n amlwg bod arbedion effeithlonrwydd cefn swyddfa yn bosibl trwy integreiddio, ac mae graddau’r arbedion hynny wedi’u nodi yn yr achos busnes.

 

5.8      Rydym yn cefnogi’r farn bod rhaid i Gymru newid y ffordd y mae’n rheoli ei hadnoddau naturiol.  Mae colli bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a defnydd gwastraffus o adnoddau yn niweidio ein gwasanaethau ecosystemau ac yn peryglu ein cyd-ddibyniaeth arnynt. 

 

5.9      Mae’r achos strategol yn haeru bod y fframwaith rheoleiddio yn rhy dameidiog, ac yn tanseilio ymdrechion i ddiogelu’r amgylchedd ac ymdrechion i reoli a harneisio adnoddau mewn ffordd gynaliadwy at ddibenion datblygu cynaliadwy. Er bod y fframwaith rheoleiddio amgylcheddol yn dameidiog, gellir sicrhau ei fod yn gweithio trwy ddull o weithredu integredig a chynaliadwy sy'n seiliedig ar ecosystemau, tebyg i’r hyn sydd i’w ganfod yng Nghynlluniau Rheoli’r Parciau Cenedlaethol.  Mae cynigion Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol / Un Corff Amgylcheddol ar raddfa gymaint yn fwy, ac eto mae iddynt nodweddion cyffelyb, maent yn galluogi mynd ati i integreiddio a datblygu fframwaith rheoleiddio sy’n fwy “cydgysylltiedig” ac yn cael ei reoli gan unig sefydliad.  Yng nghyd-destun y Parciau Cenedlaethol, gwelwn fod Cynllun Rheoli’r Parciau Cenedlaethol yn cynrychioli math o ddull o weithredu sy'n seiliedig ar wasanaethau ecosystemau sy’n gweithio.  Rydym yn credu y gellir defnyddio ein profiad â Chynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yn rhywle arall.  

 

5.10    Yr hyn sy’n parhau i fod yn aneglur yw pa ganlyniadau ymarferol a mesuradwy y gallwn eu disgwyl gan yr Un Corff Amgylcheddol a fydd yn arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer yr amgylchedd a’i ddinasyddion.

 

6.      Y DYFODOL

 

6.1      Bydd yr Un Corff Amgylcheddol yn newid y ffordd y mae’r cyrff presennol yn cydgysylltu ag Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, a’r ffordd y mae rhai swyddogaethau rheoleiddio’n cael eu gweinyddu. Dyma gyfle i’r Un Corff Amgylcheddol ystyried a all rhai o’i swyddogaethau gael eu cyflawni’n well ar lefel leol gan ei bartneriaid, gan gynnwys Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol.

 

6.2      Ni fydd newid cyfundrefnol yn unig yn sicrhau y gellir rhwystro colli bioamrywiaeth, ac mae’r Achos Busnes yn cydnabod bod materion ehangach yn y fantol yma. Mae hyn yn rhywbeth i’w groesawu.  Er mai’r grym y tu ôl i Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol oedd colli bioamrywiaeth, talwyd sylw yn yr Achos Busnes i atgyfnerthu’r fframwaith rheoleiddio sy’n diogelu ein gwasanaethau ecosystemau. Mae’n bwysig nad yw’r Un Corff Amgylcheddol yn colli golwg ar agweddau anrheoliadol eraill yn y dull o weithredu sy'n seiliedig ar wasanaethau ecosystemau, megis treftadaeth ddiwylliannol.

 

6.3      Mae gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol ddyletswydd statudol i baratoi Cynlluniau Rheoli’r Parciau Cenedlaethol, ac mae eu gweithrediad a’u bodolaeth yn enghreifftiau da o sut i gyflawni’r dull o weithredu sy’n seiliedig ar wasanaethau ecosystemau mewn ffordd ymarferol.

 

6.4      Mae cyrff cyfansoddol yr Un Corff Amgylcheddol yn bartneriaid cyflenwi allweddol, ac mae’n bwysig sicrhau nad yw’r cysylltiad lleol â chymunedau, rheolwyr tir a defnyddwyr yn cael ei golli na’i danseilio yn y trefniadau newydd. 

 

Am ragor o wybodaeth, yn y lle cyntaf cysylltwch â:

 

Greg Pycroft

Swyddog Polisi, Parciau Cenedlaethol Cymru

 

ffôn. 02920499966

e-bost. nationalparkswales@anpa.gov.uk